P-06-1325 Gostwng y cyfyngiad cyflymder ar yr A5 drwy Glasfryn, Gohebiaeth - Deisebydd i’r Pwyllgor, 08.05.23

 

Annwyl Bwyllgor Deisebau

 

Dyma fy ymateb i’r ddogfen anfonwyd ataf.

 

Mae’r ddogfen yn cydnabod fod sail gryf gan drigolion Glasfryn i alw am ostwng y cyflymder gyrru trwy’r pentref ond gan nad yw’r canllawiau newydd wedi eu cyhoeddi, nad yw’n bosib gwneud dim ar hyn o bryd. Nodir, ‘Unwaith y bydd y canllawiau newydd ar gael, bydd fy swyddogion yn blaenoriaethu cynnal adolygiad o’r terfyn cyflymder ar yr A5 drwy Lasfryn’.

 

Pe bai hyn yn wir, yna fyddai dim cyfyngiadau cyflymder yn cael eu rhoi mewn grym nes fod y ddogfen wedi ei chyhoeddi. Er hynny, mae cyfyngiadau newydd wedi eu gosod unwaith eto yn yr ychydig fisoedd diwethaf naill ben i bentref Glan Conwy yng Nghyngor Bwrdeisdref Sirol Conwy ar yr A470, sydd fel yr A5 o dan reolaeth y Llywodraeth. O gyfeiriad Llanrwst, mae’r arwydd 40mya tua hanner milltir cyn cyrraedd y pentref; hyn, tra mae cerbydau’n parhau i gael gyrru ar 60mya trwy bentref Glasfryn.  Does dim cysondeb na thegwch yn y modd y mae’r mater yma’n cael ei drin.

 

Rwyf yn gofyn eto i Lee Waters AS ddod i fy nghyfarfod yng Nglasfryn i weld pa mor beryglus ydi’r ffordd yma.

 

Yn gywir

 

Gwennol

 

Cynghorydd Gwennol Ellis

Councillor Gwennol Ellis